Cynulliad Cenedlaethol Cymru

National Assembly for Wales

 

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Health, Social Care and Sport Committee

 

Ymchwiliad i iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa’r heddlu

Inquiry into Mental health in Policing and Police Custody

 

HSCS(5) MHP09

 

Ymateb gan Samaritans Cymru

Evidence from Samaritans Cymru

 

 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa’r heddlu

Ymateb Samariaid Cymru

Gweledigaeth y Samariaid yw y bydd llai o bobl yn marw trwy hunanladdiad. Rydym yn gweithio i wireddu’r weledigaeth hon trwy arddel cenhadaeth i leihau trallod emosiynol a nifer yr achosion o deimladau ac ymddygiad hunanladdol. Un o’r prif bethau rydym yn canolbwyntio arnynt yn ein gwaith yw canfod grwpiau sydd â risg uchel am hunanladdiad a chydweithio ar draws Cymru i estyn allan a helpu’r rheiny sy’n cael trafferth i ymdopi.

Yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, mae mwy o risg hunanladdiad a hunan-niwed yn ystod cyfnodau yn y ddalfa ac rydym yn gweithio gyda heddluoedd ar draws Cymru i liniaru hyn.

Yn 2017/18, cafwyd 57 hunanladdiad ymddangosiadol yn dilyn cyfnod yn nalfa’r heddlu yng Nghymru a Lloegr.[1] O’r rhain, dynion oedd 55 a menywod oedd 2. 40 oedd oed cyfartalog y rhai a fu farw a’r oed mwyaf cyffredin oedd rhwng 41 a 50, a’r mwyaf cyffredin ond un oedd rhwng 31 a 40. 18 oed oedd y person ifancaf. Arwyddocaol yw nodi bod gan bron tri chwarter o’r bobl hyn bryderon hysbys ynghylch iechyd meddwl a bod dau wedi cael eu cadw yn y ddalfa o dan Adran 136 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl. Roedd pryderon eraill ynghylch iechyd meddwl yn cynnwys: iselder, sgitsoffrenia, anhwylder straen ôl-drawmatig, anhwylder deubegwn, seicosis, meddyliau hunanladdol blaenorol neu achosion blaenorol o ymgeisiau at hunanladdiad a hunan-niwed. Digwyddodd 14 o’r hunanladdiadau ymddangosiadol ar ddiwrnod rhyddhau’r unigolion o ddalfa’r heddlu, roedd 28 un diwrnod ar ôl rhyddhau’r unigolion, a digwyddodd 15 deuddydd ar ôl rhyddhau’r unigolion. Ni ddywedir wrth heddluoedd bob amser am hunanladdiad ar ôl i unigolyn gael ei gadw yn y ddalfa ac felly gallwn dybio bod yna fwy o farwolaethau na’r rhai sydd wedi’u cynnwys yn y data hyn.

Astudiaeth Achos y Samariaid – Gweithio mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Heddlu

Ceir yng Nghymoedd y De gymunedau gyda rhai o’r lefelau uchaf o amddifadedd economaidd gymdeithasol yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig gyfan. Gwyddom fod yna rwystrau sy’n atal pobl ar incwm isel rhag defnyddio gwasanaethau’r Samariaid ac mai’r rheiny sydd â’r angen mwyaf sy’n lleiaf tebygol, yn aml, o geisio cymorth gan wasanaeth o unrhyw fath. 

Yn 2015, rhoddodd Sefydliad Waterloo arian i’r Samariaid i ddatblygu ‘Prosiect Peilot Cymoedd y De’ dros dair blynedd. Ar yr adeg honno, nid oedd gan y Samariaid gangen yn ardal Cymoedd y De. Nod y prosiect oedd:

·         Deall yn well anghenion cymunedau’r Cymoedd o ran cymorth emosiynol

·         Cynyddu ymwybyddiaeth o wasanaethau’r Samariaid oedd yn bodoli eisoes

·         Cynyddu mynediad at ac argaeledd gwasanaeth cymorth emosiynol y Samariaid trwy ei ddarparu’n lleol

·         Cynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ceisio cymorth ac o ffyrdd i wella gwydnwch emosiynol; a

·         Rhannu’r hyn a ddysgwyd yn helaeth fel y gellid ei ddefnyddio i ddatblygu gwasanaeth y Samariaid ledled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon

Yn ystod blwyddyn gyntaf y prosiect, sefydlasom bartneriaeth hynod werthfawr gyda Heddlu De Cymru. Gweithiodd staff y prosiect gyda Heddlu De Cymru i ddatblygu system o atgyfeiriadau o gelloedd yn nalfa gorsaf heddlu Bridewell ym Merthyr Tudful.

·         Os yw swyddog yn amau y byddai rhywun sy’n cael ei gadw yn y ddalfa yn cael budd o gael cymorth emosiynol, gall gynnig galwad ffôn at y Samariaid i’r unigolyn yn uniongyrchol yn y gell dros intercom y gell.

·         Gall rhingylliaid y ddalfa gynnig i’r rheiny sy’n gadael y ddalfa alwad ffôn oddi wrth y Samariaid yn y 24 i 48 awr nesaf, yn ogystal â deunydd hyrwyddol y Samariaid i fynd ag ef gyda nhw.

·         Yn ogystal â’r gwasanaeth atgyfeirio, mae shifftiau cymorth emosiynol wythnosol yn cael eu cynnal gan y prosiect lle mae gwirfoddolwyr yn ymweld â’r ddalfa i roi cymorth emosiynol wyneb yn wyneb i bobl yn y ddalfa sydd eisiau’r gwasanaeth hwn.

·         Mae rhif ffôn y Samariaid a’n prif neges wedi cael eu paentio â chwistrell ar waliau pob un o’r 42 o gelloedd yng ngorsaf heddlu Bridewell ym Merthyr Tudful (ariannwyd hyn gan Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru).

 

Mae’r bartneriaeth hon wedi bod yn llwyddiannus iawn. Ym mis Chwefror 2017, cynhyrchodd Channel 4 News raglen deledu nodwedd[2] am y prosiect, a arweiniodd at adborth cadarnhaol iawn a rhagor o gydweithio. Rhoddwyd inni gyfle i gysylltu â phobl y mae arnynt angen taer am gymorth emosiynol ar adeg anodd iawn. Golyga hyn y gallwn fod yno iddynt pan fo arnynt angen hynny, sydd mor bwysig i’r grŵp risg uchel hwn

“Dwi’n gwirfoddoli gyda’r Samariaid ers mwy nag 20 mlynedd a’r shifftiau yn y ddalfa yw’r rhai mwyaf ystyrlon dwi erioed wedi’u gwneud”un o wirfoddolwyr y Samariaid

Mae’r prosiect yn werthfawr iawn gan nad yw’r bobl sy’n dod i gysylltiad â ni o angenrheidrwydd yn rhai a fyddai fel arfer yn codi’r ffôn neu’n mynd at ein canghennau lleol i gael cymorth emosiynol. Mae gwirfoddolwyr o’r prosiect yn siarad â mwy o unigolion sy’n mynegi teimladau hunanladdol na chyfartaledd cenedlaethol y Samariaid (30% o gymharu â 22%). Oherwydd ein bod ni yma iddynt ar yr adeg hon yn eu bywydau, mae’n golygu y gallwn gynnig cymorth ac weithiau agor y drws iddynt geisio cymorth emosiynol yn y dyfodol, ac felly cynyddu’r tebygrwydd o feithrin gwydnwch.

Tynnwyd sylw at y bartneriaeth â Heddlu De Cymru yn y gwerthusiad gan Brifysgol Abertawe o Brosiect Cymoedd y De y Samariaid. Nododd fod cydweithio gyda Heddlu De Cymru wedi arwain at roi cymorth gan y Samariaid yn uniongyrchol i unigolion bregus mewn dalfeydd ond hefyd “newid diwylliannol” posibl yn agwedd swyddogion heddlu at faterion yn ymwneud ag iechyd emosiynol.

“Roedden ni’n siarad am gyfarfod a gafodd [aelod o’r prosiect] gyda Heddlu De Cymru; a sut roedd yr heddlu erbyn hyn, dwi’n meddwl o ganlyniad i rai o’r pethau rydyn ni wedi’u gwneud, yn siarad yn rhwydd iawn yn nhermau breguster y bobl maen nhw’n ymdrin â nhw. Mae hwnnw’n newid diwylliannol mawr iawn. Mawr iawn, iawn ... o’r prif gwnstabl i lawr, erbyn hyn mae pobl yn siarad am freguster y rheiny sy’n dod i mewn i’r ddalfa ... ac yn fodlon buddsoddi amser ac ymdrech a hyfforddiant i wneud rhywbeth ynghylch hynny.”Un o wirfoddolwyr y Samariaid

 

Cafodd y newid agwedd hwn ei gadarnhau gan un swyddog heddlu oedd wedi cael profiad uniongyrchol o weithio gyda’r prosiect. Pwysleisiodd y swyddog hwn hefyd sut yr oedd y cydweithio o fudd dwbl i’r heddlu, oherwydd nid yn unig roedd yn helpu’r rheiny yn y ddalfa yr oedd arnynt angen cymorth emosiynol, ond roedd hefyd yn tynnu pwysau oddi ar y staff: 

“Roedden ni’n naïf iawn ynghylch beth oedd eu hamcanion a beth roedden nhw’n ei wneud. Felly, wyddoch chi, roedd yr hyfforddiant a gawsom ni gan [aelod o’r prosiect] yn dda iawn wrth, ym, wella ein dealltwriaeth a gweld sut y gallen nhw ffitio i mewn gyda ni a sut y gallen ni gydweithio, mewn gwirionedd, un i un, i leddfu’r pwysau ar staff yr heddlu, ond hefyd wedyn i gynorthwyo’r bobl yn y celloedd, oherwydd llawer o’r amser mae’n fater, wyddoch chi, o siarad trwy eu problemau … Llawer o’r amser mae’n, wyddoch chi, mae’n ymyriadau lefel isel y gall y Samariaid eu rhoi trwy siarad â phobl dros y ffôn. Bydd yn gwneud eu hamser yn y ddalfa’n haws  ei oddef, cymaint yn haws … mae’n gwneud i’r holl broses redeg yn llawer iawn mwy llyfn, mae’n ddigon posibl ei fod wedi atal pobl rhag hunan-niweidio yn y celloedd – felly mae’n cael effaith fawr wedyn ar staffio yn ogystal ag i’r heddlu, oherwydd os ydyn ni – mae cael ymyriadau lefel isel yn atal y math o ymddygiad mwy difrifol a fyddai’n cymryd llawer o amser y staff.” Swyddog heddlu

Oherwydd llwyddiant Prosiect y Cymoedd ym Merthyr Tudful, mae’r fenter hon hefyd wedi cael ei hymestyn a’i chyflwyno yn ardaloedd canghennau eraill yng Nghymru, gan gynnwys Gwent, Abertawe, y Rhyl, Powys a Phen-y-bont ar Ogwr.

At hynny, mae nifer o ganghennau, gan gynnwys Bangor, Abertawe a Phowys, yn darparu cymorth emosiynol i’r Mangreoedd a Gymeradwywyd yn eu hardal leol. Oherwydd risg uwch trallod emosiynol, hunan-niwed a hunanladdiad yn y ddalfa, mae’n hanfodol inni hybu gweithio mewn partneriaeth yn lleol a chydweithio rhwng yr heddlu, iechyd ac asiantaethau’r trydydd sector. Hefyd mae angen inni ymestyn y ddarpariaeth hyfforddiant o ansawdd da ar ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a hunanladdiad i’r holl staff er mwyn hybu diwylliant gweithio tosturiol lle gallant ymateb yn well i’r rheiny sydd mewn trallod.

 

 

 

 

 

 



[1] Deaths during or following police contact: Statistics for England and Wales 2017/18 (Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS))

[2] The police and the Samaritans – offering a helping hand (5 Chwefror 2017 – Channel 4 News)